Cardiff and Vale Recovery and Wellbeing College

Address


Recovery & Wellbeing College, Park Lodge, Park Road, Cardiff CF14 7XB

Cyfeiriad

Coleg Adfer a Lles, Park Lodge, Park Road, Caerdydd CF14 7XB

Geographical coverage


Cardiff and the Vale of Glamorgan

Cwmpas daearyddol

Caerdydd a Bro Morgannwg

Type of Organisation


NHS Health Board                                 

Math o Sefydliad

Bwrdd Iechyd y GIG


Cardiff and Vale Recovery and Wellbeing College

Once registered, to enrol on Recovery College courses please sign in here

About us

The Cardiff and Vale Recovery & Wellbeing College provides free educational courses on a range of mental health, physical health and wellbeing topics. Our courses take place online or in-person at venues across Cardiff and the Vale.

We welcome anyone to register as a student, you may be:

  • Someone with a lived experience of mental health and/or physical health challenges or someone currently accessing mental health and/or physical health services
  • Supporting or caring for someone with mental health or physical health challenges.
  • A member of Cardiff and Vale University Health Board staff or work in the public or charitable sector.

Peer support is at the core of our courses, all co-produced and co-delivered by health care professionals and peer trainers with lived experience of mental health and physical health challenges.

We believe clinical and lived experience expertise have equal value and our courses are a space where we can learn from one another and everyone’s contributions are valued.

We aim to bridge the gap between mental health and physical health and are developing a number of innovative partnerships to enhance the health and wellbeing of people across Cardiff and Vale.

Start your Recovery & Wellbeing College journey

Our courses

We’re proud to be able to offer a diverse range of courses covering a breadth of topics. Our Understanding Series courses offer an insight into many different mental health issues, and we also provide courses that explore topics such as wellbeing, physical health and social inclusion.

Support

If you feel worried or unsure about signing up to a course, you can meet one of our peer trainers for a one-to-one Individual Learning Plan Session. This session could be an opportunity to identify any learning or support you may require to access and participate in our courses. It’s also a great opportunity to reflect upon one’s strengths and skills, ensuring you get the most out of your experiences with the Recovery College.

We also acknowledge that you may need some digital support with accessing online courses. Digital Peers can help you with this; by offering support in setting up an email, registering with the Recovery & Wellbeing College and enrolling on your chosen courses.

Digital Peers have their own lived experience of digital exclusion, getting online and learning new skills. Sharing their own experiences of digital exclusion allows digital peers to empathise and understand some of the barriers and challenges to becoming digitally included.

Your information

All information provided is private and confidential and stored in line with GDPR requirements.

Coleg Adfer a Lles Caerdydd a’r Fro

Ar ôl cofrestru fel myfyriwr, mewngofnodwch yma i gofrestru ar gyrsiau’r Coleg Adfer ymg

Amdanom ni

Mae Coleg Adfer a Lles Caerdydd a’r Fro yn darparu cyrsiau addysgiadol am ddim ar ystod o bynciau iechyd meddwl, iechyd corfforol a lles. Caiff ein cyrsiau eu cynnal ar-lein neu wyneb yn wyneb mewn lleoliadau ar draws Caerdydd a’r Fro.

Rydym yn croesawu unrhyw un i gofrestru fel myfyriwr, gallech fod yn:

  • Rhywun sydd â phrofiad bywyd o heriau iechyd meddwl ac/neu iechyd corfforol neu rywun sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl ac/neu iechyd corfforol ar hyn o bryd.
  • Cefnogi neu’n gofalu am rywun sy’n wynebu heriau iechyd meddwl neu iechyd corfforol.
  • Aelod o staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro neu’n gweithio yn y sector cyhoeddus neu elusennol.

Mae cymorth gan gymheiriaid wrth wraidd ein holl gyrsiau, gyda phob un ohonynt yn cael eu cyd-gynhyrchu a’u cyd-ddarparu gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol a hyfforddwyr cymheiriaid sydd â phrofiad bywyd o heriau iechyd meddwl ac iechyd corfforol.

Rydym yn credu bod gan arbenigedd clinigol a phrofiad bywyd yr un gwerth ac mae ein cyrsiau yn gyfle i ddysgu gan ein gilydd a gwerthfawrogir cyfraniadau pawb.

Ein nod yw pontio’r bwlch rhwng iechyd meddwl ac iechyd corfforol ac rydym yn datblygu nifer o bartneriaethau arloesol i wella iechyd a lles pobl ar draws Caerdydd a’r Fro.

Dechrau eich taith gyda’r Coleg Adfer a Lles

Ein cyrsiau

Rydym yn falch o allu cynnig ystod amrywiol o gyrsiau sy’n ymdrin â phynciau eang. Mae ein cyrsiau yn y Gyfres Deall yn cynnig mewnwelediad i nifer o faterion iechyd meddwl gwahanol ac rydym hefyd yn darparu cyrsiau sy’n archwilio pynciau megis lles, iechyd corfforol a chynhwysiant cymdeithasol.

Cymorth

Os ydych chi’n poeni neu’n teimlo’n ansicr ynghylch cofrestru ar gwrs, gallwch gwrdd ag un o’n hyfforddwyr cymheiriaid am Sesiwn ‘Cynllun Dysgu Unigol’ un-i-un. Gallai’r sesiwn hon fod yn gyfle i nodi unrhyw wersi neu gefnogaeth y gall fod eu hangen arnoch i gael mynediad at ein cyrsiau a chymryd rhan ynddynt. Mae hefyd yn gyfle gwych i fyfyrio ar gryfderau a sgiliau, gan sicrhau eich bod yn manteisio i’r eithaf ar eich profiadau gyda’r Coleg Adfer.

Rydym hefyd yn cydnabod efallai y bydd angen cymorth digidol arnoch i gael mynediad at gyrsiau ar-lein. Gall Cymheiriaid Digidol eich helpu gyda hyn; drwy gynnig cymorth i sefydlu cyfrif e-bost, cofrestru gyda’r Coleg Adfer a Lles a chofrestru ar eich cyrsiau dewisol.

Mae gan Gymheiriaid Digidol eu profiad bywyd eu hunain o allgáu digidol, o ddysgu sut i fynd ar-lein a meithrin sgiliau newydd. Mae rhannu eu profiadau eu hunain o allgáu digidol yn caniatáu i gymheiriaid digidol gydymdeimlo a deall rhai o’r rhwystrau a’r heriau sy’n rhan o gael eich cynnwys yn ddigidol.

Eich gwybodaeth

Mae’r holl wybodaeth a ddarperir yn breifat a chyfrinachol ac yn cael ei storio yn unol â gofynion GDPR.